Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Mawrth 2024
Amser:
09.32 -
13.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14032
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Tom Giffard AS Llyr Gruffydd AS |
Tystion: |
Laurence Farreng ASE, Senedd Ewropeaidd Yr Athro Catherine Barnard, Coleg y Drindod Caergrawnt Dr Charlotte Faucher, Prifysgol Bryste |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Haidee James (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) Madelaine Phillips (Ymchwilydd) Delyth Wiliams (Swyddog) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, a nododd fod trefn yr agenda wedi newid er mwyn darparu ar gyfer argaeledd tystion, a olygai y byddai'r Pwyllgor bellach yn cyfarfod yn gyhoeddus ar gyfer y ddwy eitem gyntaf.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Carolyn Thomas AS.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Laurence Farreng ASE, Aelod o Bwyllgor Senedd Ewrop ar Ddiwylliant ac Addysg.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddiwygio ei adroddiad drafft ar Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru i adlewyrchu tystiolaeth ysgrifenedig a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Oherwydd materion technegol, nid oedd modd i’r Pwyllgor gael cyflwyniad ar ganfyddiadau ymgysylltu â dinasyddion a bydd yn ceisio aildrefnu'r eitem hon ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i dderbyn mân newidiadau drwy e-bost.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer haf 2024 a chytunwyd ar y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad undydd ym maes datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y flaenraglen waith ehangach ar gyfer haf 2024 eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.
9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Catherine Barnard, Prifysgol Caergrawnt, a Dr Charlotte Faucher, Prifysgol Bryste.
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
11.1 Trafododd y Pwyllgor ddadansoddiadau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o'r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP) a chytunodd i gadw golwg ar ddatblygiadau.
12.1 Trafododd y Pwyllgor Gonfensiwn UNESCO ar Ddiogelu Cytundebau Rhyngwladol Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol a chytunwyd i gadw golwg ar y mater.
12.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i rannu'r ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU â Phwyllgor y Senedd ar Ddeddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ac â Phwyllgor Senedd y DU ar Gytundebau Rhyngwladol.